
Ysgol Gyfun Ystalyfera yw pencampwyr blwyddyn 7 Rygbi XIII Cymru am yr ail flwyddyn yn olynol yn dilyn rowndiau terfynol a gynhaliwyd yng Nghaerffili brynhawn dydd Mercher gan Ian a Sian Golden
.
Tair ysgol wnaeth wynebu ei gilydd mewn tair gem hanner awr, felly nid oedd yn bosib cael buddugwyr tan ornest ddiwethaf y prynhawn.
Roedd y dair ysgol yn gyfrwng Cymraeg, yn ogystal a’r dyfarnwr Idris Evans, felly ni glywyd yr iaith Saesneg o gwbl ar y cae dros yr awr a hanner o chwarae.
Gwelwyd digwyddiad anarferol yng Nghem 1 wrth i dad a mab wrthwynebu yn erbyn ei gilydd, gyda Gwilym Evans, disgybl blwyddyn 9 yn Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf (buddugwr yn Stadiwm Wembley ddwy flynedd yn ol gyda’r ysgol o Gaerdydd), yn hyfforddi tim blwyddyn 7 am y tro cyntaf; a’i dad Jeremy Evans yn bennaeth Addysg Gorfforol yn Ysgol Gyfun Cwm Rhymni.
Gwilym oedd yn fuddugol er gem agos yn yr hanner cyntaf, a welodd Ioan Cole yn croesi’r linell cyn yr egwyl am gais di-drosiad.
Fodd bynnag, cynyddodd mantais Glantaf i 20-0 gyda tri chais cyflym gan Tomos Dafis a Tom Wheatley yn sgorio o dan y pyst; Tom Meak yn croesi’r linell yn y gornel. Wheatly yn trosi dau o’r tri. Elis Carpenter oedd y nesaf cyn i Meak sgorio ei ail. Wheatly yn llwyddiannus eto, a Glantaf yn ennill 30-0.
Yn ail gem y prynhawn, Ystalyfera wnaeth sgorio gyntaf yn erbyn Glantaf, a hynny’n haeddiannol gyda chais gan Morgan Morse, trosiad gan Cellan Carter-Jones.
Arhosodd y sgor yn 6-0 ar yr egwyl ond daeth Glantaf yn ol yn y gem yn gynnar yn yr ail hanner, ond methwyd trosiad i gais Madoc Kitchener yn y gornel.
Tarodd Ystalyfera yn ol yn syth wrth i Morse fynd dros y linell am ei ail gais cyn i Steffan Gibson ychwanegu cais arall, gyda Carter-Jones yn trosi i gynyddu’r mantais 16-4.
Fe gafodd Glantaf gais ar y diwedd i Owain Lloyd-Jones ond Ystalyfera oedd yr enillwyr gyda’r sgor terfynol 16-8 i baratoi rownd derfynol arbennig lle’r oedd gem cyfartal neu buddugoliaeth yn ddigon i fynd trwyddo i’r rownd nesaf. Roedd angen i Gwm Rhymni sgorio 53 o bwyntiau a byddai Glantaf yn mynd trwyddo gydag unrhyw sgor arall.
Ymddangosodd y byddai Cwm Rhymni o gymorth i Lantaf wrth i Jake Williams a Reuben Lynch sgorio ceisiau cynnar. Methwyd trosiad.
Aeth pethau’n gyfartal ar yr egwyl gyda Matthew Lloyd a Steffan Gibson.
Aeth pethau o ddrwg i waeth i Gwm Rhymni yn yr ail hanner. Aeth Ystalyfera’n bellach ar y blaen trwy Morse, gyda Gibson a Joel Colwill yn dilyn. Troswyd y tri chais gan Carter-Jones i roi mantais o 18 pwynt.
Daeth y sgor i 26-14 gyda chais gan Ioan Duggan gyda Cwm Rhymni yn ysu am fwy, ond llwyddodd Ystalyfera i ddal ymlaen ac ennill lle yn y rowndiau cenedlaethol, ar y ffordd i rownd derfynol cenedlaethol yn Stadiwm Wembley ym mis Awst.